Thomas Thomas – gweledigaeth a menter

“A Vision and a Venture” Dyma’r tudalennau Saesneg o’r llyfryn a ysgrifennwyd gan Gwynfor Phillips. Mae’r crynodeb diddorol hwn o beth o hanes Talog yn tynnu sylw at arwyddocâd Thomas Thomas a sefydlodd y siop ac a fu’n allweddol wrth sefydlu Capel Bethania. Bu farw ef a’i deulu ym 1854 ar ôl iddo gontractio tyffws ar daith i Felinau Swydd Gaerhirfryn.

Tudalen 1 o 2
Tudalen 2 o 2

1890au: Y Peryglon o gael eich Bedyddio mewn Afon

Daw’r darn hwn o “How I became a Blacksmith”, nodiadau a ysgrifennwyd gan John Davies, a aned yn Nhalog yn 1891. Pan oedd yn blentyn, byddai’n aml yn mynd i’r Efail yn Nhalog lle dechreuodd ymddiddori mewn gwaith gof. Symudodd ei deulu i Langain pan oedd yn saith oed. Fel oedolyn, bu’n gweithio fel gof yng Nghaerfyrddin ac enillodd nifer o wobrau.  

Mae’r nodiadau hyn yn sôn am ddigwyddiad yn ymwneud â “Dafi Gof”, gof Talog a fu farw ym 1905.

“Roedd yn ddyn cryf a byr ac yn garedig tuag at blant, ond nid oedd yn aelod llawn o’r capel lleol nes ei fod yn weddol hen. Mae gen i frith gof ohono’n cael ei fedyddio yn yr afon sy’n rhedeg trwy’r pentref ac achoswyd cynnwrf mawr yn y pentref y diwrnod hwnnw. Roedden nhw’n arfer bedyddio mewn pwll – yr enw arno hyd heddiw yw “pwll y bedydd1”. Ond trwy ryw anffawd mae’n rhaid bod Dafi Gof wedi cydio yn y gweinidog oherwydd tynnodd y gweinidog gydag ef i’r dŵr er mawr ddychryn i ni blant, a rhedon ni i gyd yn ôl i’r pentref gan weiddi “Mae Dafi gof wedi boddi”.

Fyddai hi ddim yn bosibl i hynny ddigwydd eto gan eu bod wedi dargyfeirio dŵr o’r rhyd i Fedyddfan a adeiladwyd o frics yn y cae gerllaw.”

Y siambr fedyddio ger Neuadd Talog

Gyda diolch Jo Kerslake, wyres John Davies, am rannu’r wybodaeth

Gallwch ddarllen mwy am fywyd John Davies yn ‘Ble canodd yr Einvil am y tro cyntaf i John Davies, pencampwr ffarier Prydain Fawr bum gwaith?‘, ac mae ychydig mwy o wybodaeth am y fedyddfaen yn ‘Bendith y Bedydd

John Harries, Melin Talog

Darparodd Jeni Molyneux hefyd wybodaeth (yn Saesneg) am John Harries (1793-1879) a oedd yn ymwneud â Therfysgoedd Rebeca.

Ganed John Harries yn Newchurch gerllaw ar 3ydd Mawrth 1793 i Solomon Harries (1762 – 1844) a’i wraig Elizabeth John (1755 – 1835). Priododd Mary James ar y 18fed o Fai 1820 pan oedd yn 27 oed. Ar gyfrifiad 1841 roeddynt yn byw ym Melin Sarne, Talog. Roedd Mary yn 50 oed, John 45, a’u dau blentyn, Harri 12, ac Elizabeth 14.

  • Yr oedd eu merch Anne yn briod a Jacob Jones, ac yr oeddynt yn byw ar fferm Rhydd-y-garreg-ddu yn Nhalog.
  • Yr oedd eu merch Sophia yn briod a William Davies, ac yn byw yn Posty Uchaf, y ffermdy lle ganwyd ei mam, Mary.
  • Priododd eu merch Elizabeth John Philipps o’r Esgerfa

Bu gwraig John Harries, Mary, ei rhagflaenu ar 22 Chwefror 1842. Bu John Harries ei hun farw o ‘cancer of the lip’ yn 86 oed ar 16 Awst 1879 yng Nghilcrug, Abernant. Yr oedd Margaret Davies, ei wyres, yn bresenol ar ei farwolaeth.

Rhoddwyd profiant i David Davies, cowper Talog, a John Davies. Yn ei ewyllys 1af Ebrill 1878 mae John Harries yn gadael £150 i’w fab hynaf Henry Harries, a oedd yn byw yng Nghaliffornia, ac arian i’w blant eraill.

Darparodd Jeni y llun diddorol hwn o ddisgynyddion John Harries a oedd yn byw yn America.

Helyntion Beca

Crynodeb byr gan Mr Turner o gyfranogiad dynion o Dalog

Cyfres o brotestiadau rhwng 1839 a 1843 oedd Helyntion Beca gan ffermwyr a gweithwyr lleol mewn ymateb i orfod talu tollau annheg. Gŵr mewn dillad merch oedd “Beca”, “cymeriad enfawr a brawychus ar gefn ceffyl gwyn mawr”. Fe’i cefnogwyd gan “Ferched Beca” a gariai arfau fel drylliau, bwyeill, gordd, trosolion, pladuriau a ffyn. Cafodd Thomas Thomas, y siopwr yn Nhalog, ddirwy pan oedd y protestiadau yn eu hanterth. Cred Mr Turner ei fod wedi cymryd rhan yn yr helyntion oherwydd bod yn rhaid iddo dalu wrth y tollborth ar Heol y Dŵr pryd bynnag y byddai’n casglu nwyddau o’r warws. Cyfeiriodd Mr Turner at lyfr “And They Blessed Rebecca” sydd â sawl tudalen am y rhan a chwaraeodd Talog yn y Terfysgoedd. Dyma grynodeb byr – edrychwch ar y llyfr i gael mwy o fanylion!

Gwrthododd tri gŵr o Dalog: Thomas Thomas; John Harries, of Talog Mill; a Samuel Brown ffermwr o Fferm Brynmeini; dalu’r tollau a chafodd pob un ddirwy o £2 yr un gyda chostau o 8s 6d (tua £2.42c), ar adeg pan enillai gweithiwr fferm £2.10s.0d (£2.50c) y flwyddyn, cosb drom! Fodd bynnag, pe bai dirwyon yn cael eu talu, byddai Beca yn bygwth llosgi eu nwyddau, a chymryd eu bywydau. Gwrthododd y tri gŵr dalu, ac anfonwyd pedwar cwnstabl arbennig (ar droed) i Dalog i gasglu’r ôl-ddyledion. Cawsant eu troi’n ôl ym Mlaenycoed gan griw. O ganlyniad, anfonwyd mintai o 42 o ddynion i Dalog gyda berfa drol i gludo eu dodrefn oddi yno. Cyrhaeddodd y fintai am 5.30am, aethpwyd â dodrefn John Harries ymaith, cyn mynd yn eu blaenau i Siop Talog. Fodd bynnag, roedd gan Thomas Thomas dderbynneb i ddangos ei fod eisoes wedi talu ei ddirwy rhag cynhyrfu ei wraig feichiog. Roedd y fintai ar ei ffordd i gartref Samuel Brown pan redodd Thomas Thomas ar eu hôl i ddweud, er lles eu diogelwch eu hunain, y dylent ddychwelyd y dodrefn i John Harries, a byddai’r ddirwy yn cael ei thalu. Fodd bynnag, chwythwyd cragen dro (sydd yn ôl pob sôn yn Amgueddfa Caerfyrddin erbyn hyn), ymddangosodd Beca a “phedwar cant” o gefnogwyr, ac roedd deg gwaith yn fwy ohonynt na’r fintai. Gorymdeithiodd Merched Beca gan fynd â’r fintai i Drawsmawr, i gartref yr Ynad Heddwch, Capten Davies, oedd wedi arwyddo’r gorchymyn. Gorchmynnodd Beca i’r cwnstabliaid ddymchwel waliau terfyn y tŷ. Yn ystod yr wythnosau nesaf, anfonwyd 2000 o filwyr a 100 o heddweision o Lundain i Gaerfyrddin, ond daethant wyneb yn wyneb â Beca yn Llanddarog. Cafwyd terfysgoedd pellach, a dymchwelwyd yr wyrcws yng Nghaerfyrddin. I gael rhagor o wybodaeth am yr helynt a ddilynodd, edrychwch ar y llyfr. Ni thalodd John Harries ei ddirwy a chafodd ei ddedfrydu i 12 mis o lafur caled. Plediodd wyth protestiwr arall o Gaerfyrddin yn euog a chawsant eu dedfrydu a’u halltudio i Awstralia. Aethpwyd â nhw i Lansteffan, yna mewn llong i Fryste, yna ar drên i Lundain, a’u cadw yn y carchar nes bod llong y carcharorion yn llawn cyn hwylio i Tasmania. Cawsant eu cadw mewn cadwyni ar hyd yr amser – o’u hymddangosiad yn y llys nes iddyn nhw gyrraedd pen y daith, ar ôl 5 mis ar y môr.

And They Blessed Rebecca, Flyleaf
“The people have discovered their immense power” declared one observer when, in 1843, the tranquillity of rural Wales was shattered by an explosion of popular violence whose total unexpectedness, rapid spread and sheer bravado conveyed to a thoroughly shaken establishment all the signs of insurrection. So startling was the eruption that The Times of London sent its most experienced correspondent down to Wales to report on the disturbances and to investigate the causes, while nearly two thousand troops marched into the troubled countryside under British army’s most experienced suppressor of civil disorder, an officer of long and distinguished service who was destined to face the most frustrating job of his career. And out of it all, out of over two hundred and fifty attacks on what the people saw as the symbols of injustice and oppression, grew a legend of a leader call Rebecca. Here, for the first time in many years, is a new look at that legend.
ISBN 0 86383 031 5
Cover photograph / Ken Davies (Photos) Carmarthen, Cover design/Glyn Rees. Publishers/Gomer Press, Llandysul, Dyfed