Atgofion o Dalog

Dathlu 100 mlynedd o Neuadd Talog

Rhagymadrodd

Agorwyd neuadd bentref Talog ym mis Medi 1920. Ym mis Awst 2019, bu Mr Eddie Turner, sydd wedi byw yn y pentref ers 1956, yn siarad â thrigolion lleol, Wendy a Heather, i gofnodi rhai o’i atgofion am Neuadd Talog, a gwybodaeth arall y mae wedi’i chasglu am hanes Talog. Hefyd, i nodi canmlwyddiant Neuadd Talog mae amrywiol bobl wedi darparu ffotograffau, ac mae rhai ohonynt yn ymddangos yma. Diolch yn arbennig i David Jones am rai o luniau o bentref Talog.

Tarddiad Neuadd Talog

Yn 1914 llofnododd “Pwyllgor Eisteddfod Talog a’r Cylch” “Memorandum of Agreement” gyda’r perchennog siop, Thomas R Thomas lle mae Mr Thomas yn rhoi benthyg £40 i’r Pwyllgor brynu pabell fawr at eu defnydd, a chytunodd i’w storio nes y telid amdani.

Cytundeb a Llofnodwyr
Ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, penderfynodd llywodraeth Lloyd George ddymchwel y rhan fwyaf o wersylloedd y fyddin a rhoi’r cabanau i ffwrdd. Roedd John Daniels yn gweithio yng Nghaerdydd a helpodd i brynu’r Neuadd, gyda chymorth T R Thomas, y siopwr.
Caban byddin oedd Neuadd Talog yn wreiddiol, fel y rhai a fyddai’n casel eu defnyddio gan ddynion ar Wasanaeth Milwrol fel ystafelloedd cysgu, gyda 10 gwely mewn rhes mae’n debyg. Dosbarthodd Cymdeithas Gristnogol Dynion Ifanc (YMCA) y cabanau i gymunedau a phentrefi glofaol ar yr amod bod plot addas ar gael, ac arian i dalu am gludo a chodi’r caban. Casglwyd yr arian gan gapeli a chytunwyd y byddai’n rhaid ei dalu yn ôl ar ôl i’r neuadd wneud elw. Fodd bynnag, cytunodd Capel Bethania i roi’r arian, yn hytrach na gofyn amdano’n ôl, yn gyfnewid am ddefnyddio’r Neuadd yn rhad ac am ddim. Cred Mr Turner fod T.R Thomas wedi trefnu cludo’r neuadd o orsaf reilffordd Cynwyl Elfed – gan ddefnyddio peiriant tynnu a cheffyl a chart.
Rhoddodd Fferm Cilwendeg dir yn y pentref i adeiladu’r neuadd arno. Rhoesant gyflenwad dŵr i’r pentref hefyd. Gosododd y pentrefwyr y pibellau ar gyfer y dŵr. Talodd mam-yng-nghyfraith Mr Turner rywun am ddiwrnod o waith am ei chyfran hi o’r gwaith. Cymerodd Cyngor Sir Gaerfyrddin yr awenau ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Cyngerdd Agoriadol Neuadd Talog

Roedd Syr John Daniels, MA, Caerdydd, yn bresennol yn y seremoni agoriadol, ac fe roddodd set o lyfrau i’r neuadd hefyd i ddechrau llyfrgell. Defnyddiodd y capel y neuadd ar gyfer cynnal dramâu ar Nosweithiau San Steffan, Eisteddfodau ar Nos Galan, a phartïon Nadolig i’r plant, yn ogystal â digwyddiadau eraill ar gyfer y capel.

Neuadd Talog

Agorwyd hen gwt y fyddin ar 22 Medi 1920, ac yn awr fel Neuadd Gymunedol Talog mae’n 100 mlwydd oed.

Roedd yr YMCA eisiau swllt y flwyddyn o’r neuadd i gynnal eu perchnogaeth. Parodd y cytundeb hwn tan 1977 pan werthodd Brinley Jones Siop Talog i Handel Griffiths.
Yn y dyddiau hynny, roedd cegin a silff gyda llyfrau ar ei phen yn y neuadd. Ym 1962, daeth trydan i’r pentref. Y siop oedd yn goleuo’r neuadd o’r blaen drwy gysylltu generadur i’r neuadd. Roedd stôf yng nghanol y neuadd yn llosgi glo.
Dywedodd Mr Turner am yr amseroedd hynny: “Gofynnodd Brinley y Siop i mi a fyddwn i’n mynd gydag ef a Jack Jones, a fu’n gweithio yn y siop, o amgylch pentrefi lle’r oedd neuadd i weld pa systemau gwresogi oedd ganddyn nhw. “Aethom i sawl pentref, gan ddechrau gyda Meidrim, dw i ddim yn gallu cofio enwau pob un ohonynt, ond roedd Abercych yn un, a daethom i ben yn Llanpumsaint.” Roedd un yn cael ei wresogi gyda thiwbiau, un arall yn cael ei wresogi o’r nenfwd, ac roedd un yn cael ei wresogi gyda system o dan y llawr. Penderfynodd y tîm ar wresogi o’r nenfwd.
Penderfynodd Brinley ofyn i’r YMCA a allent ddarparu grant ar gyfer y gwres, a daeth dyn i lawr i Dalog i gyfarfod ag aelodau o’r pentref. Ond doedd dim grant, a gwrthododd cynrychiolydd yr YMCA werthu’r neuadd hefyd. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r neuadd wedi’i throsglwyddo i sefydliad cymunedol. Prynwyd y maes parcio o Brookside, tua 20 mlynedd yn ôl erbyn hyn mae’n debyg.

Lluniau o’r awyr yn dangos Neuadd Talog (a siop)
Siop Talog

Sefydlwyd siop Talog yn 1836 ac yn 1851 roedd yn cael ei rhedeg gan Thomas Thomas. Bu farw nifer o deulu Thomas mewn epidemig yn 1854, a chafodd y teulu ei ddileu bron yn llwyr. Bu farw Thomas Thomas yn 41 oed; ei wraig, Margaret, oedd yn 39 oed; ei ferch, Mary oedd yn 17 oed; a’i fab, David oedd 15 oed. Ar wahân i hyn bu farw dau blentyn arall yn ifanc; un yn ddim ond 1 diwrnod oed, a’r llall yn 7 wythnos oed.
Yn ôl Mr Turner “Roedd Siop Talog yn fusnes llewyrchus. Roedd warws ar Gei Caerfyrddin lle’r arferai llongau ddod i Gaerfyrddin i fyny’r afon. Adeiladwyd rheilffordd i Gaerfyrddin yn 1852 a bu’n rhaid iddynt adeiladu pont oedd yn agor er mwyn i longau allu dod i mewn. Mae’n bosibl gweld y bont honno heddiw o B&Q. Roedd teulu Thomas yn berchen ar y warws neu’n ei rentu. Deuai’r nwyddau i mewn ar gwch ac roeddent yn cael eu storio yno, cyn eu cludo i bentref Talog.” Roedd hyn yn golygu bod angen defnyddio un o’r tollbyrth yng Nghaerfyrddin a fu’n yn rhan o Derfysg Beca.
Yn y 1900au etifeddodd Thomas Richard Thomas y siop, ac aeth ei frawd iau, Walter Thomas i Lundain i weithio fel gweithiwr siop. Roedd eu chwaer yn byw yn Troed y Rhiw, Talog. Dychwelodd Walter Thomas o Lundain i helpu i redeg y siop, ac fe’i galwyd yn Thomas Brothers. Mae gan Mr Turner dderbynebion sy’n dangos bod y siop yn 1913, dan yr enw T.R. Thomas, yn gwerthu “Dillad, Bwyd, Nwyddau Haearn, Hadau a Gwrtaith”, gyda “Gwasanaeth Angladdau Llawn”. Yn 1932 enw’r siop oedd “Thomas Bros. Grocers, Drapers and General Merchants”.
“Gwerthwyd bob math o eitemau yn y siop, gan gynnwys gwrteithiau, porthiant anifeiliaid – gellid cael unrhyw beth ym mhentref Talog. Roedd ganddynt eu buwch a’u cae eu hunain, felly roedd ganddynt laeth ffres.”
“Pe baech am gael siwt, byddent yn eich mesur, yna byddech yn dewis y defnydd o lyfr, yr arddull yr oeddech am ei gael, faint o bocedi yr oeddech eisiau, gyda llabedi sengl neu labedi dwbl, a byddai’n barod o fewn wythnos.”
Roedd yr arfer hwn wedi dod i ben erbyn i Mr Turner symud i’r pentref.

Y Dyddiau Cynnar
Rhai derbynebau cynnar
Thomas Bros
Siop y Pentref a Swyddfa’r Post
HDG Farm Supplies
Capel Bethania

Wrth ddarparu gwybodaeth am Gapel Bethania, cyfeiriodd Mr Turner at y llyfryn a ysgrifennwyd gan ei frawd-yng-nghyfraith, Gwynfor Phillips, a gyhoeddwyd ym 1997.

Hanes o Gapel Bethania

Cafwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol trwy drafodaethau â phobl leol gan gynnwys Lili Thomas, a thrwy ymchwil ar-lein.

Adeiladwyd Capel Bethania ym 1839 (y flwyddyn y dechreuodd Terfysgoedd Beca). Roedd y tir yn cael ei rentu gan Rydygarregddu am 6s (30c) y flwyddyn.

Ym 1989 pan ddathlwyd 150 o flynyddoedd ers codi’r capel, cyflwynodd teulu Jones y brydles i’r Capel am ddim. Safai bwthyn bach, Bryntirion, lle mae’r festri heddiw. Cafodd ei ddymchwel, ac adeiladwyd stablau yn ei le gan fod pobl yn dod o bell i’r capel, ond ymhen amser adeiladwyd y festri yn eu lle.

Festri
Festri
Capel Bethania, Capel Bethel, Bryntirion

Yn dilyn rhwyg ym Methania, adeiladwyd Capel Bethel i lawr y ffordd, tuag at Penybont. Cafodd yr anghytundeb ei ddatrys ac ni chafodd ei ddefnyddio fel capel erioed. Daeth yn dŷ, Llygaid yr Haul, ac yn wreiddiol roedd wedi’i rannu’n ddau fflat. Arferai Harry’r Gof fyw yno.

Capel Bethania, adeiladwyd 1839
Capel Bethel, adeiladwyd 1896

Ym 1927 adnewyddwyd y capel gan osod llawr parquet, seddi newydd, pulpud, ffenestri a drysau.

Cymerodd Gwilym Wilkins (Danybont, Talog) yr awenau gan Harry fel gof. Ef oedd arweinydd côr Capel Bethania, ac mae plac i’w goffáu yn y capel. Gan nad oedd organ ym Methania cyn i drydan ddod i’r pentref, arferai Gwilym ddechrau’r canu trwy daro picfforch, a hymian y nodyn a gynhyrchwyd.
Ni chynhaliwyd priodasau yn y Capel tan 1989. Cyn hynny, cynhaliwyd priodasau lleol yng Nghapel Foelcwan (chwaer gapel i Fethania), neu yng Nghapel y Tabernacl yng Nghaerfyrddin.

Gwilym Wilkins
Bendithiwyd y Fedyddfan

Bedyddiwyd pobl cyn ymuno â Chapel Bethania. Yn wreiddiol, byddai hyn wedi digwydd yn yr afon; yna yn y siambr fedyddio ger Neuadd Talog, ar dir a roddwyd gan Penrallt; ac yn ddiweddarach yng Nghapel y Tabernacl yng Nghaerfyrddin. Yn 2018 “Bendithiwyd y Fedyddfan”, dan arweiniad y Gweinidog, Peter Cutts, ac roedd rhai o’r bobl a fedyddiwyd yno’n bresennol.

Bedyddfan a Bendith
Parchg. Peter Cutts
Mair Davies

Cyfeiriodd Mr Turner at Mair Davies. Pan adawodd yr ysgol yn Cwmogor, yn 13 oed, aeth i fyw gyda’i modryb a’i hewythr ym Mhantdwrgns, Talog, gan fyw yno am 9 mlynedd. Fodd bynnag, yn angladd ei thad teimlai fod yn rhaid iddi helpu pobl dramor, a chynigiodd ei hun i Wasanaeth Cenhadol y Bedyddwyr

Aeth i hyfforddi i’r Rhondda, Caerfyrddin, a Llundain.Bu Mair yn gweithio fel cenhades gyda’r Bedyddwyr yn India rhwng 1927 a 1967. Fe’i disgrifiwyd fel y Fam Theresa, yn helpu’r gwan a’r tlotaf. Mae llawer o bobl Talog yn ei chofio pan ddeuai’n ôl i’r ardal mewn dillad Indiaidd, gyda’i merch fabwysiedig, Shontu. Mae wedi’i chladdu yng Nghapel Bethania

A Vision and A Venture

“A Vision and a Venture”
Dyma’r tudalennau Saesneg o’r llyfryn a ysgrifennwyd gan Gwynfor Phillips. Mae’r crynodeb diddorol hwn o beth o hanes Talog yn tynnu sylw at arwyddocâd Thomas Thomas a sefydlodd y siop ac a fu’n allweddol wrth sefydlu Capel Bethania. Bu farw ef a’i deulu ym 1854 ar ôl iddo gontractio tyffws ar daith i Felinau Swydd Gaerhirfryn.

Mynwent a Phlaciau Coffa Capel Bethania

Mae ychydig o’r cerrig beddi a’r placiau coffa i’w gweld yng Nghapel Bethania.

Thomas Thomas, 1854 a’i deulu

Colofn
Er coffadwriaeth am Thomas Thomas masnachwr Talog o’r Plwyf hwn yr hwn a fu farw Ion
19 1854 yn 41 oed
Hefyd Margaret ei wraig a fu farw Ion 27 1854 yn 39 oed
Hefyd David eu mab a fu farw Ion 5 1854 yn 15 oed
Hefyd Mary eu mherch a
fu farw Chwef 10 1854 yn 17 oed
Edrych ar orchwyl DUW canys
pwy a all y unioni y peth a gam anodd efe

Dau o’r cerrig beddi ar gyfer aelodau o’r teulu Jones, Rhydygarregddu, Talog

Placiau i Gwilym Wilkins a Gwynfor Phillips yng Nghapel Bethania

Athro Henry Harford Williams

Wedi’i fagu ym Meidrim, astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth a daeth yn wyddonydd amlwg, gan arbenigo mewn parasitoleg pysgod. Yn ôl ei deulu “Roedd yn ddyn gweithgar, gyda nifer o ddiddordebau, ac ni wyddai pryd i gymryd hoe o’i gwaith. Ar ddiwedd diwrnod caled o waith, byddai’n aml yn dweud ei fod wedi’i gorwneud hi:
“Dw i wedi’i gorwneud i”

Fideo ( yn Saesneg ) am stori drist Emily Phillips (ifanc) a oedd yn byw yn Castle Inn,a ddaeth ac achos llys yn erbyn Thomas Williams o Fachddu. Bu farw Emily ym 1911, yn 25 oed. Gyda diolch i “Bethena” am ganiatâd i ddefnyddio’r fideo ddiddorol yma.

Ysgol Penrhiwlas
I’w ychwanegu ….
  • Mwy o hanes am Dalog a’i bobl
  • ayyb

Anafusion Rhyfeloedd y Byd

Y Rhyfel Mawr / Rhyfel Byd 1 (ac un o’r Ail Ryfel Byd)

Taken from https://ww1.wales/post-ww2-war-memorials (which is only in English)

William Jones, Private, King’s Shropshire Light Infantry. William resided at Cwmcarn, Talog. He served with the 2nd Battalion, King’s Shropshire Light Infantry, which had served during the war attached to 80 Brigade, 27th Division. After the Armistice, the battalion was sent to Fermoy, in Southern Ireland. On Sunday 7 September 1919, William was one of a group of soldiers who were heading to attend a Church Service, when several cars pulled up, and the soldiers were fired upon by Sinn Fein activists. William was killed by the gunfire, which struck him in the chest. A resulting court case refused to treat the incident as murder, which prompted a riot by other members of his battalion, who went on the rampage in Fermoy, causing damage to around sixty shops. William was buried with full military honours at Blaenycoed Congregational Chapelyard, Cynwyl Elfed. Presently he is commemorated on the Brookwood (United Kingdom 1914-1918) Memorial, England. His brother Evan had been killed during the Great War.

Evan Jones, Private, 202746, Welsh Regiment. Evan was the son of William and Elizabeth Jones, of Cwmcain, Talog, Carmarthen. At the outbreak of war, Evan was residing in Llandeilo, and he enlisted at Llanelli into the 9th Battalion, Welsh Regiment. The Battalion formed at Cardiff on 9 September 1914, and was attached to 58 Brigade, 19th (Western) Division, crossing to France in July 1915. It saw its first action at the Battle of Loos. They then moved to the Somme in 1916, and attacked on the second day of the Offensive, capturing the village of La Boisselle. In June 1917 the Division fought at the Battle of Messines, and throughout the Passchendaele offensive. That winter they moved to positions north east of Bapaume to rebuild and rest, but on 21 March 1918, the area was hit by the desperate German Spring Offensive, which was aimed at winning the war before the full power of the American Army could be organised and brought into action. The 19th Division suffered terrible casualties, and were moved to positions near Messines, south of Ypres, but they were hit here again when the Germans switched their attack to Flanders, and Evan was Killed in Action around the time of the Battle of Bailleul, on 16 April 1918, aged 22. He is commemorated on the Tyne Cot Memorial, Belgium.

James Jenkins, MM, Sergeant Major, 871225, Canadian Railway Troops. (Meidrim). James was born at Talog on 26 July 1880, the son of Mrs. A. Jones, later of Wolfscastle Inn, Llanfyrnach. He was working in Canada as a shell maker before the war, but enlisted at Winnipeg in February 1916, joining the Canadian Railway Company, earning the Military Medal in France.

World War 2

Tudor Samuel Thomas, Gunner, 1796246, Royal Artillery. Tudor was born near St. Clears on 1 March 1910, the son of Samuel and Mary Thomas. He was raised in Aberdare following the early death of his father, as his mother parents had moved there to work, but returned to Carmarthenshire, and lived with his wife Maria at Felinfach, Talog. Tudor enlisted into the Royal Artillery following the outbreak of war and embarked for the Far East with 48 Light Anti-Aircraft Regiment, Royal Artillery from the Clyde on 6 December 1941, bound for Batavia, Java. The Japanese invaded Java on 28 February 1942 and following heavy fighting the Allied Commanders signed the surrender document on 12 March. Tudor was taken prisoner by the Japanese during this brief campaign in the Dutch East Indies and was later transported to Japan, where the prisoners were used as forced labour, as a result of lack of Japanese manpower. He died in a Prisoner of War Camp in Omine, Nagasaki, on 9 January 1943, aged 32. His remains were originally interred near his camp but in 1946 were re-interred in Yokohama War Cemetery.

Helyntion Beca

Crynodeb byr gan Mr Turner o gyfranogiad dynion o Dalog

Cyfres o brotestiadau rhwng 1839 a 1843 oedd Helyntion Beca gan ffermwyr a gweithwyr lleol mewn ymateb i orfod talu tollau annheg. Gŵr mewn dillad merch oedd “Beca”, “cymeriad enfawr a brawychus ar gefn ceffyl gwyn mawr”. Fe’i cefnogwyd gan “Ferched Beca” a gariai arfau fel drylliau, bwyeill, gordd, trosolion, pladuriau a ffyn.
Cafodd Thomas Thomas, y siopwr yn Nhalog, ddirwy pan oedd y protestiadau yn eu hanterth. Cred Mr Turner ei fod wedi cymryd rhan yn yr helyntion oherwydd bod yn rhaid iddo dalu wrth y tollborth ar Heol y Dŵr pryd bynnag y byddai’n casglu nwyddau o’r warws.
Cyfeiriodd Mr Turner at lyfr “And They Blessed Rebecca” sydd â sawl tudalen am y rhan a chwaraeodd Talog yn y Terfysgoedd. Dyma grynodeb byr – edrychwch ar y llyfr i gael mwy o fanylion!
Gwrthododd tri gŵr o Dalog: Thomas Thomas; John Harries, o Felin Talog; a Samuel Brown ffermwr o Fferm Brynmeini; dalu’r tollau a chafodd pob un ddirwy o £2 yr un gyda chostau o 8s 6d (tua £2.42c), ar adeg pan enillai gweithiwr fferm £2.10s.0d (£2.50c) y flwyddyn, cosb drom! Fodd bynnag, pe bai dirwyon yn cael eu talu, byddai Beca yn bygwth llosgi eu nwyddau, a chymryd eu bywydau.
Gwrthododd y tri gŵr dalu, ac anfonwyd pedwar cwnstabl arbennig (ar droed) i Dalog i gasglu’r ôl-ddyledion. Cawsant eu troi’n ôl ym Mlaenycoed gan griw. O ganlyniad, anfonwyd mintai o 42 o ddynion i Dalog gyda berfa drol i gludo eu dodrefn oddi yno. Cyrhaeddodd y fintai am 5.30am, aethpwyd â dodrefn John Harries ymaith, cyn mynd yn eu blaenau i Siop Talog. Fodd bynnag, roedd gan Thomas Thomas dderbynneb i ddangos ei fod eisoes wedi talu ei ddirwy rhag cynhyrfu ei wraig feichiog. Roedd y fintai ar ei ffordd i gartref Samuel Brown pan redodd Thomas Thomas ar eu hôl i ddweud, er lles eu diogelwch eu hunain, y dylent ddychwelyd y dodrefn i John Harries, a byddai’r ddirwy yn cael ei thalu. Fodd bynnag, chwythwyd cragen dro (sydd yn ôl pob sôn yn Amgueddfa Caerfyrddin erbyn hyn), ymddangosodd Beca a “phedwar cant” o gefnogwyr, ac roedd deg gwaith yn fwy ohonynt na’r fintai. Gorymdeithiodd Merched Beca gan fynd â’r fintai i Drawsmawr, i gartref yr Ynad Heddwch, Capten Davies, oedd wedi arwyddo’r gorchymyn. Gorchmynnodd Beca i’r cwnstabliaid ddymchwel waliau terfyn y tŷ.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, anfonwyd 2000 o filwyr a 100 o heddweision o Lundain i Gaerfyrddin, ond daethant wyneb yn wyneb â Beca yn Llanddarog. Cafwyd terfysgoedd pellach, a dymchwelwyd yr wyrcws yng Nghaerfyrddin. I gael rhagor o wybodaeth am yr helynt a ddilynodd, edrychwch ar y llyfr.
Ni thalodd John Harries ei ddirwy a chafodd ei ddedfrydu i 12 mis o lafur caled. Plediodd wyth protestiwr arall o Gaerfyrddin yn euog a chawsant eu dedfrydu a’u halltudio i Awstralia. Aethpwyd â nhw i Lansteffan, yna mewn llong i Fryste, yna ar drên i Lundain, a’u cadw yn y carchar nes bod llong y carcharorion yn llawn cyn hwylio i Tasmania. Cawsant eu cadw mewn cadwyni ar hyd yr amser – o’u hymddangosiad yn y llys nes iddyn nhw gyrraedd pen y daith, ar ôl 5 mis ar y môr.

And They Blessed Rebecca, Flyleaf
“The people have discovered their immense power” declared one observer when, in 1843, the tranquillity of rural Wales was shattered by an explosion of popular violence whose total unexpectedness, rapid spread and sheer bravado conveyed to a thoroughly shaken establishment all the signs of insurrection. So startling was the eruption that The Times of London sent its most experienced correspondent down to Wales to report on the disturbances and to investigate the causes, while nearly two thousand troops marched into the troubled countryside under British army’s most experienced suppressor of civil disorder, an officer of long and distinguished service who was destined to face the most frustrating job of his career. And out of it all, out of over two hundred and fifty attacks on what the people saw as the symbols of injustice and oppression, grew a legend of a leader call Rebecca. Here, for the first time in many years, is a new look at that legend.
ISBN 0 86383 031 5
Cover photograph / Ken Davies (Photos) Carmarthen, Cover design/Glyn Rees. Publishers/Gomer Press, Llandysul, Dyfed

Fideo am Penrhiwbeili

Fideo diddorol

Pobl o’r Gorffennol

John Howell, 1781 – 1819. Llawfeddyg yng Nghwmni India’r Dwyrain

Mae Jeni Molyneux yn byw yn Lloegr ond sylweddolodd fod ganddi lawer o hynafiaid o Abernant, Trelech a’r Betws, a Thalog. Datgelu papurau a llythyrau teulu Howell a Thomas, yn gyntaf yn Swyddfa Cofnodion Sir Benfro, yna yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac yna yn Swyddfa Cofnodion Swydd Northampton, sydd wedi gwneud yr ymchwil sylfaenol hwn yn bosibl. Casglwyd y papurau i gyd gan y Parch Thomas Thomas, a oedd yn hynafiaethydd amatur, yn ogystal â chlerigwr. Yn 2019 rhoddodd sgwrs yn Eglwys Sant Lucia, Abernant, am ei hynafiad, John Howell. Ganwyd ef yn 1781 yn Rhydygarregddu, Talog, ac aeth i India i weithio fel llawfeddyg. Mae’r trawsgrifiad hwn o’i sgwrs ddiddorol yn sôn am berthnasau eraill o’r ardal hefyd. Mae wedi ei atgynhyrchu yma gyda chaniatâd caredig Jeni Molyneux sy’n cadw hawlfraint yr erthygl hon.

John Howell 5 Tachwedd 1781- 28 Mehefin 1819
Llawfeddyg yng Nghwmni India’r Dwyrain – 7fed Catrawd y Troedfilwyr Brodorol
o Rhyd y Garreg Ddu, Talog, i Kissengunge, India.


Ar 30 Mehefin 2019 cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn St Lucia’s, Abernant i gofio am fywyd y Cymro ifanc hwn o Dalog, Sir Gaerfyrddin.


Dywed Thomas Howell, ei dad, (mewn llythyr a ysgrifennwyd yn 1785 at ei frawd yng nghyfraith) fod John Howell, ei fab ieuengaf, wedi’i eni am 4pm ar brynhawn 5 Tachwedd 1781 yn fferm Rhyd y Garreg Ddu. Brawd hynaf John oedd Howell Howell, oedd bum mlynedd yn hŷn nag ef ac a anwyd yn 1776 yn Abernant. Ffermiodd Howell Howell gerllaw yng Nghwmgest hyd ei farwolaeth yn 1840. Y brawd hŷn hwn, Howell Howell, a drefnodd ac a ddewisodd y geiriau ar gyfer y gofeb uchod yn eglwys St. Lucia i’w chodi er cof am ei frawd.


Bu’n rhaid i John, fel y brawd ieuengaf heb unrhyw etifeddiaeth ddisgwyliedig, ennill ei fywoliaeth mewn ffordd arall. Ymddengys ei fod wedi derbyn cefnogaeth ariannol ac mae’n debyg iddo gael ei addysgu gan ei ‘Annwyl Ewythr’ y Parch Thomas Thomas a oedd yn gurad yn Isham a Farndon yn Swydd Gaerlŷr. Ar droad y ganrif yn 1800 mae John Howell yn 19 oed ac mae eisoes yn Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1804 ac yn 23 oed, mae’n cyflawni ei MD ac yn dod yn llawfeddyg yn Llundain.

Y flwyddyn ganlynol, mae’r Parch Thomas Thomas yn derbyn llythyr dyddiedig 6 Chwefror 1805 gan rieni John Howell, Rosamond a Thomas Howell, yn gofyn ei gyngor ynglŷn â ‘sut i godi £150 am offer India’
Fodd bynnag, mae ffawd yn garedig ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, yn 1805, penodir John Howell yn Llawfeddyg Cynorthwyol ar gyfer Bengal, India, yng Nghwmni India’r Dwyrain. Hwyliodd John Howell i Calcutta ar y llong Britannia fel 3ydd is-gapten gan gyrraedd Bengal ym mis Rhagfyr 1805 i gymryd ei swydd.

Ar 3 Mawrth 1806, ymunodd John Howell â Gwasanaeth Meddygol India fel Llawfeddyg Cynorthwyol yn Benares, India. (Yr enw arno heddiw yw Varanasi)

Ni chlywir rhagor am fywyd John Howell yn India am y 9 mlynedd nesaf…

  • Yna ym mis Mai 1814, yn 33 oed mae John Howell yn ysgrifennu at ei ewythr y Parch Thomas Thomas yn sôn ei fod ‘wedi cael damwain ddrwg wrth farchogaeth a’i fod yn dioddef iechyd gwael o ganlyniad i hynny’
  • Yn 1814 cymerodd John Howell seibiant o’i waith a theithiodd adref oherwydd salwch ardystiedig.
  • Ar 16 Mehefin 1814 ymadawodd John Howell, llawfeddyg, â Calcutta ar fwrdd y llong Matilda i ddychwelyd adref i Portsmouth. Roedd dau o weithwyr Cwmni India’r Dwyrain yn dod adref o Calcutta: Mr John Howell a’r Capten S. Lutwige o’r 11eg gatrawd o droedfilwyr brodorol a oedd hefyd ar absenoldeb salwch.
  • Ar 16 Rhagfyr 1814, mae John Howell yn cyrraedd Portsmouth ac yn ysgrifennu llythyr at ei ewythr, y Parch Thomas Thomas yn Farndon, yn disgrifio mordaith boenus iawn. Mae’n amlwg bod John Howell yn wael.
  • 8 Mehefin 1815 Mae’r Parch Thomas Thomas yn ysgrifennu at ŵr ei nith Phoebe, y Parch Thomas Skeel yn Nhŷ Newydd, Sir Benfro yn gofyn iddo ddod i gasglu John Howell o “wallgofdy Mr Talbot” yn Bethnal Green.
    • “Mae’n debyg mai’r cwymp o’i geffyl yn Asia yw prif achos ei ddryswch am fod hwnnw wedi effeithio ar ei asgwrn cefn a’i ymennydd… mae’n bosibl bod symud i’w ardal leol yn ffordd lesol iddo wella. Mae mwy i’w ddweud am faterion John Howell nag y gallaf ei esbonio ar bapur. Mae Mr Talbot i gael £1.11.6 ceiniog yr wythnos, ynghyd â rhai treuliau ychwanegol bob wythnos. Fyddech chi cystal â’m hateb gynted ag y gallwch. Yn dioddef llawer o boen meddwl”
  • Yn yr haf hwnnw yn 1815 achubir John Howell o Bethnal Green, gan ŵr ei gefnder y Parch Thomas Skeel, a’i gymryd i Millbrook House, Caerfyrddin, i adfer ei bwyll.
  • Yn 1817 dychwelodd John Howell i’w waith fel Llawfeddyg Cynorthwyol gyda Chwmni India’r Dwyrain yn Bengal gyda’r 7fed gatrawd o droedfilwyr brodorol.
  • Yn 1818 enwebwyd John Howell yn Llawfeddyg gan Syr H. Inglis. Bart.

Bu farw John Howell ar 28 Mehefin 1819 yn 38 oed yn Kissengunge, Maharashtra, India. Gofynnodd i’r gofeb gael ei rhoi yn Eglwys Sant Lucia, Abernant.

1914: Dyddiau cynharaf Neuadd Talog

Cliciwch yma i weld y rhestr o bobl a lofnododd y cytundeb i brynu pabell fawr am £ 40 (tua chyfwerth â £ 11,614.73 yn 2021)